HUIT Jeans

CWMNI JÎNS ‘HUIT’ CAERFYRDDIN (English below)

  Mae fy arbenigedd fel ffotograffydd dogfennol a dyn camera / cyfarwyddwr ffilmiau yn seiliedig ar ddiwydiant. Y rheswm am hyn, rwy’n credu, yw oherwydd cefais fy magu ac rwy’n dal i fyw yng nghymoedd De Cymru. Rwyf wedi gweld cwymp diwydiant trwm a llawer o ffatrïoedd yn cau dros y degawdau. Mae fy nheulu a pherthnasau wedi gwynebu ansicrwydd a di-swyddiad yn y pyllau glo, y diwydiant dur a ffatrïoedd lleol yn y gorffennol.

Rwy’n cofio tynnu lluniau o’r gweithwyr yn protestio yng nghwm Tawe yn ystod y 2000au cynnar, pan oedd gwneuthurwyr dillad Dewhurst yn cau eu ffatri ym mhentref bach cyn-lofaol Ystalyfera, roedd y cwmni am symud i Foroco. Yn wir, roedd y cwmni efo tri ffatri arall yn ardal De Cymru – Abertawe, Abergwaun ac Aberteifi.

Yn 2002, gwynebodd tref Aberteifi sioc anferth, wrth i Dewhurst, â oedd yn cyflogi 400 o weithwyr medrus, gau ei drysau. Ar ôl cynhyrchu rhyw 35000 pâr o jîns yr wythnos, byddai'r ffatri'n wag a byddai cynhyrchiad jîns yn dod i ben yn y dref.

Yn 2012, agorodd yr entrepreneuriaid, David a Clare Hieatt, ffatri jîns yn Aberteifi. Roedd rhai o gyn-weithwyr Dewhurst yn cael eu cyflogi yn y ffatri newydd ochr yn ochr â'r genhedlaeth newydd o weithwyr iau oedd yn dysgu'r broses gwneud jîns.

Mae'r cwmni wedi tyfu o nerth i nerth, ac mae jîns HIUT yn cael eu cynhyrchu i'r ansawdd uchaf, mae rhai yn dadla’ eu bod yn gwneud y jîns gorau yn y byd.

Fel rhan o brosiect DocCymru, rwy’n edrych ar diwidiant yng Nghymru ac yn dogfennu a tynnu lluniau yr effaith mae’n cael ar weithgynhyrchu yng Ngymru ar ôl i’Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl derbyn e-bost hyfryd gyda gwahoddiad i ymweld â HIUT yn Aberteifi, cyrhaeddais y ffatri i gael croeso cynnes! Gyda phaned o de, cefais fy nhywys o amgylch y ffatri ac yna rhyddid llwyr i dynnu lluniau yno. Roedd y staff i gyd yn gyfeillgar ac yn egluro rôl eu swydd wrth i mi dynnu’r lluniau. Sylweddolais pa mor lwcus oeddwn i weld y gweithwyr anhygoel hyn yn gwneud cynnyrch sy'n cael ei werthu ledled y byd. Nid yn unig hynny, roedd pob un ohonynt yn falch o ansawdd y cynnyrch maent yn ei creu.

Ar hyn o bryd mae HIUT yn cyflogi tua deg ar hugain o weithwyr a'u nod yw datblygu'r gweithle am flynyddoedd lawer i ddod.


Diolch i holl weithwyr HIUT am y croeso mawr,

Roger

HIUT Jeans Company, Carmarthen

My expertise as a documentary photographer/film maker is based around industry. The reason for this, I believe, is because I’ve grown up and live in the South Wales valleys. I’ve witnessed the demise of heavy industry and closure of many factories over the decades. My family and relatives have faced uncertainty and redundancy in the coal mines, steel industry and local factories in the past.

I remember photographing the workers march in the Swansea valley during the early 2000s, when Dewhurst clothing manufacturers were closing their factory in the small ex mining village of Ystalyfera, moving their company to Morocco. Indeed, they had three other factories in the South Wales area - Swansea, Fishguard and Cardigan.

During 2002, the town of Cardigan faced a heavy hammer-blow, as Dewhurst employing 400 highly skilled workers closed its doors. From making some 35000 pairs of jeans a week, the factory would lay empty and jean making in the town would end.

In 2012, entrepreneurs, David and Clare Hieatt vowed to return jean making back to Cardigan. Some ex Dewhurst employees were employed at the new factory alongside the new generation of younger workers learning the jean making process.

The company has grown from strength to strength, where HIUT jeans are made to the highest quality, arguably making them the best jeans manufacturer in the world.

As part of the DOC Cymru project, I’m looking at manufacturing in Wales as part of my remit to photograph industry during a post European Union exit by the United Kingdom.

After receiving a lovely email with an invitation to visit HIUT in Cardigan, I arrived at the factory to be greeted with a warm welcome. With a nice cup of tea, I was shown around the factory and then left to freely take photos. All the staff were friendly and explained their job role as I took photos. It struck me how lucky I was to witness these incredible workers making a product that is sold around the world. Not only that, each of them was proud of the quality product they make.


Currently HIUT employs around thirty employees and their goal is to build the workforce for many years to come.


Thank you to all employees at HIUT for making me feel so welcome.

Roger

Previous
Previous

Sharon Piccardo

Next
Next

Dychwelyd i Gymru / Returning to Wales