Dychwelyd i Gymru / Returning to Wales
gan Rhodri Jones
Mae dychwelyd i Gymru bob amser yn bleser anferth i mi, nid yn unig am fy mod yn cael cwrdd â theulu a hen ffrindiau ond mae hefyd yn gyfle i gwrdd â phobl newydd a dal i fyny ar yr hyn sydd wedi newid ers fy nhaith ddiwethaf. Roedd yn arbennig o dda cwrdd â fy nghyd-Aelod Kristina; er ein bod wedi siarad yn ddigon aml ar-lein; nid oeddem erioed wedi cyfarfod yn bersonol. Roedd hefyd yn dda cwrdd â mwy o’r genhedlaeth nesaf o ffotograffwyr Cymru yng ngŵyl EYE yn Aberystwyth ynghyd â cael siarad gyda fy hen ffrindiau Glenn ac Emyr Young.
Llwyddais i ddechrau cysylltu â ffermwyr a chwrdd â nhw cyn gynted a gorffennais fy chwarantîn hunanosodedig. Llwyddais i dreulio o leiaf diwrnod yn tynnu lluniau ar ddeuddeg fferm wahanol a chasglu sylwadau gwerthfawr iawn i sut maen nhw ac eraill yn y byd amaethyddol yn teimlo am eu dyfodol. Yn arbennig mwynheais dreulio amser gyda y phobl ifanc, mae eu brwdfrydedd a'u egni yn heintus p'un a oes ganddynt genedlaethau o brofiad yn eu gwaed neu a ydynt yn newydd i'r diwydiant.
Am y tro, er gwaethaf cwymp sylweddol mewn gwerthiannau i Ewrop, mae'r farchnad leol wedi gallu gwrthbwyso'r rhan fwyaf o'r colledion hynny ac roedd ffermwyr cig yn mwynhau prisiau da yn y farchnad. Fodd bynnag, roedd pawb yn ansicr ynglŷn â'r dyfodol; rhai yn teimlo mai hwn oedd yr amser gywir i fynd amdani a buddsoddi mewn mentrau a thechnolegau newydd tra bod eraill yn edrych i leihau eu costau wrth geisio cynyddu eu elw.
Yn ôl yn yr Eidal, rwyf eisoes yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda'r bobl hyn eto yn ogystal ag eraill mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Nid swydd yn unig, sy'n hanfodol i bob un ohonom yw ffermio; mae'n alwedigaeth i lawer ac hanfod cymunedau gwledig ledled Cymru. Cytuno ai peidio, mae newid yn dod.
Returning to Wales is always a joy for me, not only because I get to meet up with family and old friends but it’s also an opportunity to meet new people and catch up on what has changed since my last trip. It was especially good to meet up with my colleague Kristina; although we’d spoken often enough online; we had never met in person. It was also good to meet more of Wales’ next generation of photographers at the EYE festival in Aberystwyth as well as catch up with old friends Glenn and Emyr Young.
I was able to start contacting and meeting farmers as soon as I came out of a self-imposed quarantine. In all, I was able to spend at least a day photographing on twelve different farms and gathered really valuable insight into how they and others in the agricultural industry are feeling about their future. I especially enjoyed spending time with young people whose enthusiasm and drive is contagious whether they have generations of experience in their blood or are new to the industry.
For now, despite a significant drop in sales to Europe, the local market has been able to offset most of those losses and meat farmers were enjoying good prices at market. However, all were uneasy about the future; some feeling that this was the right time to go all-out and invest in new ventures and technologies while others were looking to scale down their costs while trying to increase their profit margins.
Back in Italy, I’m already looking forward to spending more time with these people again as well as others in different parts of the country. Farming isn’t simply a job, essential to us all; it’s a vocation to many and the backbone of rural communities throughout Wales. Like it or not, change is coming.