Ebbw Vale




CYMRAEG - ENGLISH BELOW

Yn 2002, caeodd Ebbw Vale Tin Plate Works gan ddod â hanes hir o gynhyrchu dur yn y dref i ben. Collwyd miloedd o swyddi medrus a ddi-grefft a dinistriwyd y safle, sy'n gorchuddio ardal fawr.


Roedd gobaith mawr am ddatblygiad yr hen safle, gyda chynlluniau adfer tir wedi'u hariannu gan grant mawr gan yr UE. Y cynllun oedd creu adeiladau modern o'r safon uchaf gan gynnwys coleg addysg, ysbyty, ysgol a chanolfan chwaraeon newydd, a thrwy hynny; denu diwydiant i'r ardal. Roedd arwyddion glas y gronfa ddatblygu Ewropeaidd i weld ym mhobman trwy’r safle, a chyn bo hir dechreuodd y gwaith adeiladu.


Ers cwblhau'r prosiect hwn rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r safle gwaith dur yn edrych fel petai wedi’ drawsnewid yn llwyr. Roedd yn ymddangos bod buddsoddiad o £350 miliwn mewn maes yr oedd wir angen dyfodol newydd a llewyrchus arno yn llwyddo.


Felly pam y pleidleisiodd y gymuned leol i adael Ewrop efo niferoedd mor fawr; roedd chwe deg dau y cant eisiau ‘allan’, yr uchaf yng Nghymru? Yr ateb: Mae lawer o bobl yn teimlo fod y datblygiad pensaernïol newydd Ebbw Vale yn gosmetig ac yn arwynebol. Ychydig neu bron ddim o swyddi newydd sydd wedi'u creu o gymharu â'r gwaith a oedd yn yr hen waith dur. 


Mae bylchau gwag mawr i’w weld yn y tirwedd, ymhlith yr adeiladau newydd glân, ac onglau ffansi lle fysa’ diwydiant newydd yn gallu cael ei leoli, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw gwmnïau'n manteisio ar y cynnig. Mae angen cyfleon cyflogaeth yma, fel mewn sawl ardal yng Nghymru. Mae diweithdra dynion yn Blaenau Gwent ymhlith yr uchaf yn y DU. Ar ôl Brexit, ble mae pobl leol yn y gymuned hon, ac yn wir ardaloedd diwydiannol ôl-drwm eraill am chwilio am gyflogaeth yn y dyfodol?

ENGLIGH

During 2002, the Ebbw Vale tin plate works closed bringing a long history of steel manufacturing in the town to an end. Thousands of skilled and un skilled jobs were lost and the site, covering a large area was demolished. 


There was indeed hope for the former site, with land reclamation plans, partly funded by European money. The plans were to build a state of the art architectural constructions including a further education college, a hospital, school and sports centre, thus attracting new industry to the area. The blue signs of the European development fund appeared across this vast site and building work began.  


Some years on since the completion of this project, visually the steel works site has been transformed. 350 million pounds investment of an area that desperately needed a new and prosperous future looked on course. 


So why did the local community vote to leave Europe in such large numbers; sixty two percent wanted ‘out’, the highest in Wales? The answer: Many feel that the new Ebbw Vale sky line is cosmetic and superficial. Little or no new jobs have been created in comparison to the work offered on a large scale at the former steel works.

There are gaps in the landscape, amongst the shinny clean angled buildings, where new industry can locate, but no companies seem to take up the offer. Employment opportunities here, like many areas in Wales, are desperately needed. Male unemployment in Blaenau Gwent is amongst the highest in the UK. Post Brexit, where do local people in this community and indeed other post heavy industrial areas look for employment in the future?

Previous
Previous

Dychwelyd i Gymru / Returning to Wales

Next
Next

Coming Home soon